ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithas, Gwariant mwy effeithiol er mwyn sicrhau cymdeithasau cynaliadwy: gêm fwrdd caffael cyhoeddus
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Beth sy’n cael ei gynnig?
Mae cymdeithasau’n wynebu heriau cymhleth ac mae ein gwasanaethau cyhoeddus (gofal iechyd, trafnidiaeth, ynni, tai, rheoli gwastraff, plismona ac ati) dan bwysau mawr. Ni allwn ddatrys problemau nad ydym yn eu trafod, felly dewch draw i chwarae gêm fwrdd newydd, sydd wedi’i dylunio i sbarduno sgyrsiau am wasanaethau cyhoeddus, dewisiadau ynghylch gwariant cyhoeddus, a pholisïau ar gyfer adeiladu cymdeithasau ffyniannus, gwydn, sy’n gyfrifol yn fyd-eang. Mae'r gêm fwrdd yn cael ei chwarae mewn timau o 4, ond gallwch ddod fel grŵp mwy neu lai o faint a chael eich paru â phobl eraill yn y fan a'r lle.
Am beth mae’r digwyddiad?
Dysgwch am yr ymchwil ddiweddaraf ar gaffael cyhoeddus sy’n digwydd ym Mhrifysgol Caerdydd gan Dr Oishee Kundu a yr Athro Jane Lynch, a dewch yn fwy ymwybodol o’ch ardal leol a’i threfniadau llywodraethu.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Oishee Kundu, Cydymaith Ymchwil ar gyfer Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd
Jane Lynch, Athro mewn Caffael ym Mhrifysgol Caerdydd
I bwy mae'r digwyddiad?
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i oedolion
O ddiddordeb i:
Pobl sy'n hoffi gemau bwrdd a gwasanaethau cyhoeddus.
Canolfan Cymunedol Cathays
36 – 38 Cathays Terrace
Caerdydd
CF24 4HX