Cyfweliad gyda Noel Mooney, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Audience](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2676618/Audience-2022-10-11-11-8-30.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Wrth i bêl-droedwyr Cymru gamu i’r maes ar gyfer eu gêm agoriadol yng Nghwpan y Byd ym mis Tachwedd, bydd yn dod â 64 mlynedd o boen a rhwystredigaeth i’w cefnogwyr i ben. Ond beth yw’r goblygiadau ehangach i’n cenedl, a pha gyfleoedd sydd i Gymru o’r cyfle digynsail a digyffelyb hwn i arddangos Cymru ar lwyfan byd-eang? Pa fwy o gyfle marchnata allai fod na gweld “Cymru Vs USA” yn ymddangos ar sgriniau teledu 5 biliwn ar ddechrau’r gêm gyntaf honno ar Dachwedd 21ain?
Ddydd Iau 10 Tachwedd bydd Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymuno â’r Athro Laura McAllister yn Ysgol Busnes Caerdydd am sgwrs am lwyddiant ein tîm pêl-droed a sut mae CBDC yn ceisio gwneud hwn yn gynaliadwy, cyflawniad yn hytrach na digwyddiad unigryw, yn ogystal â'r goblygiadau ehangach hynny i “Brand Cymru”.
Ymunwch â ni ar gyfer un o gyfweliadau olaf Noel cyn Cwpan y Byd, ac i achub ar y cyfle i drosglwyddo eich dymuniadau gorau iddo ef a’r tîm!
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU