ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithas, Deall Lleoedd Cymru: cyflwyniad ymarferol i wefan ryngweithiol gyda data am eich ardal leol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Photo of terraced three story stone houses next to a screen shot of a webpage. The webpage title is Welcome to understanding Welsh places](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2671893/FoSS_SO-2022-9-28-15-44-1.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Beth sy’n cael ei gynnig?
Bydd y digwyddiad yn gyflwyniad i wefan Deall Lleoedd Cymru. Bydd cyflwyniad byr ac yna gweithdy rhyngweithiol, ymarferol lle gall y rhai sy’n bresennol ddysgu sut i ddefnyddio'r wefan. Dangosir i chi sut y gallwch ddefnyddio data am eich ardal leol (Caerdydd a de Cymru / Bangor a gogledd Cymru) i’ch helpu i ddeall ble rydych yn byw a sut mae’n debyg neu’n wahanol i leoedd cyfagos. Gallai archwilio’r pethau sy’n debyg a’r cyferbyniadau rhyngddynt roi syniadau i chi ar gyfer eich lle, neu gallwch rannu enghreifftiau o’ch arfer gorau gydag eraill.
Am beth mae’r digwyddiad?
Ar wefan Deall Lleoedd Cymru, cewch ddata a gwybodaeth ddaearyddol ddefnyddiol am eich tref neu ardal leol, i’ch helpu chi i ddod o hyd i gyfleoedd i’ch cymuned. Mae’n cynnwys gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â 1,000 neu fwy o bobl yn byw yno. Os ydych chi’n byw mewn tref neu gymuned sydd â llai na 2,000 o bobl, byddwch yn sylwi bod llai o ddata ar gael nag ar gyfer lleoedd mwy. Ceir data ar gyfansoddiad demograffig, cymdeithasol ac economaidd ardaloedd, argaeledd gwasanaethau ac asedau cymunedol gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, a data ar sut mae pobl yn symud rhwng lleoedd fel patrymau cymudo a mudo. Bydd y graffeg, y mapiau a’r canllawiau yn eich helpu i archwilio’r data sydd ei angen arnoch i wneud gwahaniaeth yn y man lle rydych chi’n byw neu’n gweithio.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Scott Orford, Athro mewn Dadansoddi Gofodol a GIS ym Mhrifysgol Caerdydd
Sam Jones, Swyddog Data Ymchwil WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd
O ddiddordeb i:
Er y gall unrhyw un fynd i’r digwyddiad, hoffem yn arbennig ddenu aelodau o gynghorau tref a chymuned, cymdeithas sifil a grwpiau trydydd sector a fyddai’n elwa o weithio gyda data cymharol ar eu hardaloedd lleol.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA