Ewch i’r prif gynnwys

ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithas, Dangos ffilm ddogfen "Guavira Time"

Dydd Mercher, 26 October 2022
Calendar 17:00-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

People hold hands dancing in a circle with the words Tempo de Guavira in orange letters

Beth sy’n cael ei gynnig?

Dangosiad o'r rhaglen ddogfen "Guavira Time". Mae'r rhaglen ddogfen yn 40 munud o hyd, mewn Portiwgaleg a Guarani, gydag isdeitlau yn Sbaeneg ac yn Saesneg. Bydd y ffilm yn cael ei dangos mewn lleoliad ym Mhrifysgol Caerdydd a hefyd ar-lein drwy Zoom. Ar ôl y rhaglen ddogfen bydd cyfranogwyr o Frasil (gan gynnwys cyfranogwyr brodorol a rhai nad ydynt yn frodorol a gymerodd ran yn y rhaglen ddogfen) yn cynnig eu safbwyntiau personol a rhai eu cymuned. Bydd sesiwn holi ac ateb i ddilyn. 

Am beth mae'r digwyddiad?

Mae'r rhaglen ddogfen yn trafod ac yn amlygu’r problemau sy’n gysylltiedig â’r trais a wynebwyd gan y Guarani-Kaiowa, sef y grŵp brodorol mwyaf ond un ym Mrasil, a’r grŵp y mae trais gwrth-frodorol yn effeithio arnynt fwyaf. Wrth wraidd y materion dadleuol hynny, mae’r cynnydd o ran echdynnu adnoddau a ffermio ar raddfa fawr yn ardaloedd y Guarani-Kaiowa. Mae'r rhaglen ddogfen yn gyfraniad 'mwy nag academaidd' pwysig o bartneriaeth barhaus rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Ffederal Dourados Mawr ers 2017, wedi'i hariannu gan ESRC, AHRC, yr Academi Brydeinig a Chronfa Newton. 

Pwy sy'n arwain y digwyddiad?

Antonio Ioris, Darllenydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd 

Tatiane Klein, Myfyriwr Doethurol ym Mhrifysgol São Paulo, Brasil

I bwy mae'r digwyddiad?

Mae'r digwyddiad hwn yn agored i bobl ifanc (17-25 oed) ac oedolion. 

O ddiddordeb i

Mae'r digwyddiad yn addas ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn hawliau tir pobl frodorol a Daearyddiaeth Ddynol. 

Gweld ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithas, Dangos ffilm ddogfen "Guavira Time" ar Google Maps
Ystafell 1.64
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

ESRC Festival of Social Science