Gwella iechyd meddwl drwy genomeg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae cyflyrau iechyd meddwl fel sgitsoffrenia, seicosis ac anhwylder deubegwn yn effaith ‘n sylweddol ar fywydau’r rhai a’r cyflwr a’u teuluoedd. Mae'r afiechydon hyn yn cael eu hachosi gan gyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol. Dros y degawd diwethaf mae datblygiadau wedi’u gwneud i ddeall sut mae geneteg yn cyfrannu at risg o’r cyflyrau hyn, mae’r Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig wedi arwain llawer o’r gwaith hwn.
Ymunwch â’r Athro James Walters (MSc 2005, PhD 2012), Cyfarwyddwr y Ganolfan; Dr Kimberley Kendall (BSc 2007, MBBCh 2009, PhD 2021), Cymrawd Ymchwil a seiciatrydd; ac Dr Antonio Pardiñas, Cydymaith Ymchwil, yn trafodi sut mae genomeg yn darparu mewnwelediadau newydd ar gyfer triniaethau newydd i’r cyflyrau hyn.
Clywch sut mae’r Ganolfan yn defnyddio eu hymchwil i lunio ein dealltwriaeth o salwch meddwl a throsi’r canfyddiadau hyn o’r labordy i wella triniaethau a datblygu’r clinig cyntaf yn y DU sy’n cynnig cwnsela a phrofion genetig i gleifion a theuluoedd.