Prosiectau Diwydiant a Rhwydweithio Ymgysylltu’r AMG 2022
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Fe'ch gwahoddir i Sesiwn Prosiectau Diwydiant a Rhwydweithio Ymgysylltu a gynhelir gan Academi Meddalwedd Cenedlaethol Prifysgol Caerdydd. Bydd y digwyddiad yn gyfle i chi ganfod rhagor am yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i ymgysylltu â myfyrwyr yr Academi a thrafod unrhyw syniadau sydd gennych chi am brosiectau myfyrwyr, ac unrhyw weithgareddau eraill, gyda’n staff academaidd.
Mae amryw ffyrdd y gallwch ymgysylltu â NSA a'n myfyrwyr. O gynnig prosiectau myfyrwyr a chyflwyno mewn sesiynau #CinioaDysgu, i weithio gyda’n myfyrwyr ar leoliadau haf. Mae ymgysylltu’n llwyddiannus â’r diwydiant yn allweddol i ethos NSA.
Mae’r digwyddiad hwn yn ffordd wych i ni eich cyflwyno i’r ffyrdd y gallwch ymgysylltu â’r NSA a dechrau sgyrsiau am ymgysylltiadau posibl ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Rhowch eich enw i lawr nawr i sicrhau lle yn y digwyddiad hwn!
Information Station
Hen Adeilad yr Orsaf
Queensway
Casnewydd
NP20 4AX