Ewch i’r prif gynnwys

Brittle with Relics: Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru 2022

Dydd Iau, 17 Tachwedd 2022
Calendar 18:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

The author, Richard King

Bum mlynedd ar hugain ar ôl refferendwm 1997 a arweiniodd at greu'r Senedd a Llywodraeth Cymru, bydd yr awdur mawr ei fri Richard King yn traddodi Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru yn adeilad eiconig y Pierhead ym Mae Caerdydd.

Yn gynharach eleni, cyhoeddwyd llyfr Richard King Brittle gyda Relics: A History of Wales, 1962–97 (Faber) ac yn gyflym iawn mae bellach yn un o'r llyfrau am Gymru sydd wedi cael y croeso mwyaf ymhlith darllenwyr ers blynyddoedd lawer.

Dyma a ddywedodd yr Athro Richard Wyn Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd:

"Mae llyfr gwych Richard King Brittle with Relics wedi creu argraff fawr ar darllenwyr a beirniaid fel ei gilydd, ac rydyn ni wrth ein boddau bod Richard wedi cytuno i draddodi Darlith Flynyddol Canolfan Llywodraethiant Cymru 2022. Gan fod y ddarlith wedi ei threfnu i ddathlu chwarter canrif ers y refferendwm pan bleidleisiodd etholwyr Cymru (o drwch blewyn!) dros gymeradwyo datganoli, mae'n anodd meddwl am well person i'n harwain drwy'r broses a arweiniodd at greu sefydliadau datganoledig Cymru neu i ystyried i ble y byddwn ni'n mynd nesaf."

Yn dilyn y ddarlith, sy’n yn rhad ac am ddim, bydd trafodaeth gyda'r gynulleidfa. Caiff y ddarlith ei recordio a bydd ar gael i'r rheini na fydd yn gallu bod yn bresennol. Bydd angen cofrestru ar gyfer y digwyddiad a gaiff ei gynnal yn adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd ar Fedi 14, 2022.

Noddir gan y Llywydd, Elin Jones AS

Adeilad y Pierhad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Rhannwch y digwyddiad hwn