Hunaniaethau sy'n croestorri? Profiadau siaradwyr LHDTC+ y Gymraeg - Dr Jonathan Morris a Dr Sam Parker
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Nod y papur hwn yw ymchwilio i brofiadau siaradwyr LHDTC+ y Gymraeg. Yn benodol, byddwn yn cyflwyno prif ganfyddiadau ymchwil i sut mae siaradwyr yn trafod perthyn i ddwy hunaniaeth leiafrifol ac i ba raddau y ceir gorgyffwrdd rhyngddynt. Cynhaliwyd cyfweliadau lled-strwythuredig ag wyth siaradwr y Gymraeg sydd hefyd yn uniaethu fel aelodau o’r gymuned LHDTC+. Yn gyntaf, cyflwynir dadansoddiad thematig o brofiadau’r siaradwyr o fod yn siaradwyr Cymraeg LHDTC+. Yn ail, eir ati i ddangos sut y mae siaradwyr yn cyfleu’r cysyniad o berthyn yn y ffordd y maent yn trafod eu profiadau.
Traddodir y seminar yn Gymraeg dros Zoom.