Pen-y-Fan a’r Brenin Arthur yn yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar - Dr Rebecca Thomas
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn Itinerarium Kambriae (‘Y Daith trwy Gymru’) Gerallt Gymro, Caer Arthur yw’r enw ar fynydd uchaf Bannau Brycheiniog. Edrycha dau bigyn y mynydd fel cadair, eglura Gerallt, ac oherwydd ei uchder, priodolir y gadair i frenin pwysicaf y Brythoniaid: Arthur. Roedd sylwadau Gerallt yn ddylanwadol, ac mae cyfeiriadau at Gaer Arthur a Chadair Arthur yn britho testunau’r cyfnod modern cynnar. Bydd y papur hwn yn trafod hanes testunol yr enwau, ac yn ystyried datblygiad y cysylltiad rhwng Pen-y-Fan a’r Brenin Arthur.
Traddodir y seminar yn Gymraeg dros Zoom.