Gwerthoedd a Rhinweddau ar gyfer Byd Heriol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Rydym yn byw mewn byd sy’n anodd rhagweld. Mae newid yn yr hinsawdd, pandemigau feirysol, rhyfeloedd a mudo torfol yn cyflwyno heriau newydd yn barhaus, tra bod y cynnydd yn y cyfryngau cymdeithasol wedi newid sut rydym yn deall ein hunain ac yn meddwl am ein sefyllfaoedd.
Beth yw’r agweddau, y sgiliau, a’r gwerthoedd y dylem eu meithrin er mwyn i ni allu ymateb yn dda i heriau nad oes modd eu rhagweld mewn byd sy’n newid yn gyflym?
Mae’r digwyddiad hwn yn dod ag athronwyr academaidd ynghyd â gweithwyr proffesiynol ym maes polisi cyhoeddus ac addysg i drin a thrafod ystod o syniadau mewn ymateb i’r cwestiwn hwn. Bydd pum sesiwn:
- Blas Da a’r Profiad o Werth
- Cyfryngau Cymdeithasol, Camwybodaeth a Pholareiddio
- Chwilfrydedd, Gonestrwydd a Hunanreoleiddio
- Doethineb a Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd
- Ansicrwydd a Pholareiddio
Bydd llawer o amser ar gyfer sgyrsiau anffurfiol. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ffyrdd ymarferol o feithrin agweddau, sgiliau a gwerthoedd defnyddiol trwy addysg, polisi cyhoeddus, a dylunio cyfryngau, sefydliadau a mannau.
Trefnir y diwrnod gan Brifysgol Caerdydd ar y cyd â’r Sefydliad Athroniaeth Frenhinol.
Pierhead
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF10 4PZ