Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol Busnes Caerdydd Sesiwn Hysbysu dros Frecwast - Cyfweliad gyda Sarah John, Cyd-Sylfaenydd Boss Brewing

Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2022
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Sarah John

Yn 2015, penderfynodd Sarah John ysgwyd y “status quo”, trwy gyd-sefydlu Boss Brewing – wyneb benywaidd yn arwain busnes mewn diwydiant a’i rheolwyd gan ddynion. Cynyddwyd sefyllfa a oedd eisoes yn heriol pan ddarganfu ei bod yn feichiog ar y diwrnod y lansiwyd y bragdy. Trowch y cloc ymlaen 7 mlynedd, ac mae Boss Brewing wedi ennill nifer o wobrau, a Sarah wedi’i hadnabod fel un o brif entrepreneuriaid Cymru, ond nawr mae ar fin cychwyn ar gyfnod newydd o’i gyrfa…

Yn ystod y sesiwn hon, byddwch yn clywed mwy am stori Sarah, a sut wnaeth pecyn bragu cartref arwain at fusnes sy’n cyflenwi archfarchnadoedd mawr, dau far yng nghanol dinas ac allforion byd-eang, yn ogystal â’i llwyddiant yn cyd-bwyso bywyd personol ochr yn ochr â’i hymrwymiadau busnes. Dysgwch sut y trodd ei hegni a’i hangerdd yn fenter busnes, a mwy am darddiad yr enw Boss, a sut yr ysgogodd her gan gyfreithwyr Hugo Boss.

Mae'r Sesiwn Dros Frecwast hwn yn cael ei gynnal ar-lein.

Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education