Digwyddiad Panel Arloesi Gwyddor Gymdeithasol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ymunwch â’r sgwrs ar sut i annog a meithrin arloesedd o fewn y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd a thu hwnt.
Deëllir arloesedd yn aml o ran dyfeisiadau a thechnoleg, ac felly mae’n bennaf yn weithgaredd sy'n cael ei gynnal o fewn STEM. Ond mae arloesedd yn ehangach na hynny ac yn rhywbeth y mae Gwyddonwyr Cymdeithasol yn ei wneud ar draws Prifysgol Caerdydd. Gall hyn fod ar ffurf arloesedd ym maes llunio polisïau cyhoeddus, arloesedd sefydliadol, ac entrepreneuriaeth gymdeithasol; mae'n mynd y tu hwnt i gyd-destun cynhyrchu incwm sy'n deillio o ddyfeisiadau a thechnolegau newydd.
Gall ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol gyfoethogi a llywio cymdeithas i greu’r cyd-destun lle gall datblygiadau polisi a thechnolegol ffynnu; Weithiau, bydd dealltwriaeth gwyddonwyr cymdeithasol o'r ffactorau diwylliannol, y mathau o berthynas sefydliadol a'r strwythurau grym yn cyfrannu at greu rhywbeth sy'n greadigol neu sy'n ddyfeisgar, ac oherwydd hyn, bydd arloesi aeddfed go iawn yn gallu digwydd.
Yn y gyfres gyntaf yn YR HAF ARLOESEDD a gynhelir Mehefin-Gorffennaf 2022 rydym am i bobl ymuno yn y drafodaeth ar sut mae arloesedd y tu hwnt i STEM yn bod. Bydd hyn yn cael ei hwyluso gan banel o aelodau o staff gwasanaethau proffesiynol, academyddion a phartneriaid allanol o bob rhan o’r Brifysgol.
Yr Athro Gill Bristow sy’n Athro mewn Daearyddiaeth Economaidd ar hyn o bryd a Phennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio bydd cadeirydd y digwyddiad ac yn ei gynnal. Mae Gill yn ymchwilydd ymgysylltiol ac yn gweithio’n agos gyda phartneriaid ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd ac yng Nghymru i gefnogi datblygiad economaidd. Mae Gill yn aelod o Gomisiwn UK2070 sy’n eiriol dros ragor o gyfiawnder gofodol yn y DU, ac mae’n aelod o Fforwm Cynhyrchiant Cymru. Mae Gill hefyd yn aelod o Bwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r panelwyr yn cynnwys:
Nadine Payne (Rheolwr Prosiectau a Phartneriaethau Strategol), Chris Taylor (Cyfarwyddwr Academaidd, Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd - SPARK, yr Athro John Harrington (Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru ac Athro Cyfraith Iechyd Byd-eang yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Caerdydd) a Paul Harrod (Prif Swyddog Gweithredol Evidence to Impact ac Entrepreneur Cymdeithasol profiadol)
Education Suite
Main Hospital Building
University Hospital of Wales
Caerdydd
CF14 4XN