PRB Cronfa Her - Problem a Rennir: Digwyddiad Cymuned Ymarfer
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![CCR Challenge Fund - Community of Practice flyer](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2631983/CCR-Challenge-Fund-Community-of-Practice-Event-2022-6-22-9-12-3.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Rydym ni (Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd) yn falch iawn o lansio ein Cymuned Ymarfer. Os oes gennych her gymdeithasol na ellir mynd i’r afael â hi, mae ein Cymuned Ymarfer yn lle gwych i ddechrau eich taith i ddatrys y broblem honno.
Bydd y digwyddiad yn dod â gweithwyr proffesiynol o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector ynghyd ar draws rhanbarth De-ddwyrain Cymru i gyflawni un nod – cyfnewid syniadau, ac yn rhan o’r broses, ddysgu oddi wrth ein gilydd.
Rhesymau dros ymuno â'r digwyddiad hwn
- Cyfathrebu a chydweithio â phobl o bob rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd
- Rhannu syniadau ac arfer gorau gyda chydweithwyr mewn Awdurdodau Lleol eraill, mewn sesiynau rhwydweithio strwythuredig a di-strwythur
- Cael gwybod rhagor am y Gronfa Her a sut y gallwn eich helpu i wneud cysylltiadau â phartneriaid hanfodol
Pwy ydym ni?
Nod Cronfa Her Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw sicrhau cyfoeth yn lleol ac ysgogi twf economaidd drwy arloesedd a arweinir gan heriau. Rydym yn cefnogi cyrff y sector cyhoeddus yn y rhanbarth i nodi problemau cymdeithasol na allant eu datrys, datblygu a chynnal heriau a chysylltu â sefydliadau a all gynnig atebion arloesol i'r heriau hynny.
sbarc|spark
Heol Maendy
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ