ClwstwrVerse
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ddydd Llun, 4 Gorffennaf, bydd ClwstwrVerse yn taflu goleuni ar ddatblygiadau arloesol ym maes y cyfryngau yng Nghymru ac yn dathlu'r prosiectau, y cysylltiadau a'r datblygiadau sydd wedi bod yn bosibl drwy’r rhaglen.
Ymunwch â ni yn Neuadd y Ddinas i brofi a chael rhagor o wybodaeth am ymchwil a datblygiadau arloesol yn y sector sgrin a newyddion.
Gallwch ddisgwyl gŵyl arddangos sy’n rhoi sylw i gynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, ochr yn ochr â chyflwyniadau a thrafodaethau am arloesi ym maes y cyfryngau.
Cewch gyfle i gwrdd â’r bobl greadigol sydd wedi gwneud mwy na 100 o brosiectau Clwstwr yn bosibl, gan gynnwys clywed hanes arloesi ym maes y cyfryngau sy’n digwydd yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Parc Cathays
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3ND