Polisi Masnach newydd y DG — sut olwg sydd ar ddull cynhwysol a chyfiawn?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Centre for Inclusive Trade Policy and Trade Justice Wales Joint Launch](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/2627571/WGC-event.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae'n bleser gennym eich gwahodd i lansiad ar y cyd rhwng prosiect Cyfiawnder Masnach Cymru (TJW) a'r Ganolfan Polisi Masnach Gynhwysol (CITP).
Cofrestrwch yma.
Ymunwch â ni ar 9 Mehefin yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd i gwrdd ag aelodau'r tîm o'r ddau brosiect ac i drafod sut y gall y DG symud tuag at bolisi masnach effeithiol, teg a chynhwysol sydd wedi'i gydgysylltu'n sylweddol ar draws meysydd polisi a daearyddiaethau.
Mae cofrestru a cinio ysgafnar gael am 12.30 a bydd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, yn siarad am 13.05.
Agenda:
12:30 - 13:00 Cofrestru, rhwydweithio a chinio
13:00 – 13:05 Croeso a dechrau'r digwyddiad
13:05 – 13:15 Vaughan Gething AS, Gweinidog Economi
13:15 – 13:25 Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac Aelod o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith.
13:30 – 14:30 Trafodaeth Panel (siaradwyr ychwanegol i’w cadarnhau)
* Cadeirydd – Dr Ludivine Petitin, Canolfan Llywodraethiant Cymru
* Yr Athro Michael Gasiorek, Canolfan Polisi Masnach Gynhwysol
* Aileen Burmeister – Cyfarwyddwr Cymru Masnach Deg a Chadeirydd Cyfiawnder Masnach Cymru
* Dr Louisa Petchey, Uwch Arbenigwr Polisi, Iechyd Cyhoeddus Cymru
14:30 Lluniaeth, rhwydweithio a diwedd y digwyddiad
***********************************************************************************************************************
Mae Cyfiawnder Masnach Cymru yn brosiect peilot a ariennir gan grant Arloesi i Bawb blwyddyn gan Brifysgol Caerdydd dan arweiniad Masnach Deg Cymru a thîm o ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru i ddyrchafu llais cymdeithas ddinesig Cymru wrth lunio polisi masnach newydd y DG drwy ddarparu rôl gydlynol a chyfleoedd am hyfforddiant.
Mae'r Ganolfan Polisi Masnach Gynhwysol yn ganolfan ymchwil newydd o bwys a ariennir gan grant o £8 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Ei nod yw rhoi'r gallu i'r DG lunio a gweithredu polisi masnach wedi'i deilwra i anghenion y DG gyfan.
I gael mynediad at y lleoliad, ewch i dudalen we Senedd Cymru yma: https://senedd.wales/visit/our-estate/plan-your-visit/
Adeilad y Pierhead
Maritime Road
Caerdydd
CF10 4PZ