Diwrnod Gweithgareddau Gŵyl Cychod y Ddraig
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Boat races at the Dragon Boat Festival](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2626090/The-Dragon-Boat-Festival-2022-5-17-15-55-15.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae Sefydliad Confucius Caerdydd yn eich gwahodd i ddathlu Gŵyl Cychod y Ddraig: diwrnod o weithgareddau byw ar-lein.
Ddydd Gwener 27 Mai, gall disgyblion fwynhau'r digwyddiad yn rhithwir drwy sesiynau rhyngweithiol gyda'n tiwtoriaid.
Byddwn yn cynnal tair set o dair sesiwn ar gyfer cyfnodau allweddol 1, 2 a 3 lle gall plant ddysgu am darddiad y digwyddiad, dysgu geiriau Mandarin ac ymadroddion sy'n gysylltiedig â'r ŵyl, darganfod beth mae pobl Tsieineaidd yn ei fwyta a gwneud papur 'zongzi' (twmplenni reis wedi'u lapio)!
Sesiwn | Amser | Pwnc |
---|---|---|
1a | 09:05 - 09:30 | Traddodiadau ac arferion Gŵyl Cychod y Ddraig Darganfyddwch wreiddiau Gŵyl Cychod y Ddraig |
1b | 09:35 - 10:00 | Dosbarth Mandarin sylfaenol ar gyfer disgyblion CYFNOD ALLWEDDOL 1 Dysgwch ychydig o Tsieineaidd Mandarin sy'n gysylltiedig â'r diwrnod arbennig hwn |
1c | 10:05 - 10:30 | Torri papur Tsieineaidd traddodiadol Gwnewch eich cwch draig eich hun yn ein gweithdy celf a chrefft |
Sesiwn | Amser | Pwnc |
---|---|---|
2a | 11:05 - 11:30 | Cyflwyniad i Ŵyl Cychod y Ddraig Darganfyddwch sut ddechreuodd yr ŵyl a rhai o'i harferion |
2b | 11:35 - 12:00 | Dosbarth Mandarin sylfaenol ar gyfer disgyblion CYFNOD ALLWEDDOL 2 Dysgwch rywfaint o eiriau ac ymadroddion ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn |
2c | 12:05 - 12:30 | Bwyd a lluniau Gŵyl Cychod y Ddraig Darganfyddwch 'zongzi' a rasio cychod y ddraig: Gweithdy celf a chrefft. |
Sesiwn | Amser | Pwnc |
---|---|---|
3a | 13:35 - 14:00 | Traddodiadau ac arferion Gŵyl Cychod y Ddraig Cyflwyniad byr i wreiddiau ac arferion yr ŵyl |
3b | 14:05 - 14:30 | Dosbarth Mandarin sylfaenol ar gyfer disgyblion CYFNOD ALLWEDDOL 3 Dysgwch sut i ddweud "Rwy'n bwyta zongzi yng Ngŵyl Cychod y Ddraig" a mwy |
3c | 14:55 - 15:00 | Gwneud 'zongzi' gan ddefnyddio'r grefft o blygu papur Tsieineaidd Gwnewch eich bwyd eich hun ar gyfer yr ŵyl arbennig... ond bwyd o bapur! |
Byddwn hefyd yn sicrhau bod y sesiynau wedi'u recordio ar gael ar ôl y digwyddiad. Byddwch yn gallu gwylio'r rhain ar wefan Prifysgol Caerdydd o 6 Mehefin.
Sylwch y byddwn yn defnyddio Gweminarau Zoom ar gyfer y digwyddiad hwn i wneud y mwyaf o ddiogelu a diogelwch.