Hanesyddiaeth Raffig: Comics ac/ynghylch Ysgrifennu Hanes
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Gweminar sy’n rhan o’r thema ymchwil Hanes a Threftadaeth yn yr Ysgol Ieithoedd Modern gyda'r siaradwr gwadd Dr Elizabeth “Biz” Nijdam (Prifysgol Colombia Brydeinig).
Crynodeb
Yn 2009, ar gyfer coffau’r 20fed flwyddyn ers i Wal Berlin gael ei dymchwel, cyhoeddwyd tair nofel raffig oedd yn adrodd hanes Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (GDR): drüben! gan Simon Schwartz, Grenzgebiete gan Claire Lenkova, a Da war mal was... gan Flix (Felix Görmann)(2009). Wedi'u creu â chenhedlaeth y bobl ifanc a welodd gwymp y GDR yn gynulleidfa darged – pobl ifanc oedd, yn rhy ifanc, i ddeall cymhlethdod y rhaniad yn eu gwlad, roedd y comics hyn yn adrodd am y profiad o fyw yn Nwyrain yr Almaen trwy lygaid y plant a fagwyd yno. Fodd bynnag, wrth i ragor o nofelau graffig oedd â hanes y GDR yn thema ganolog iddynt, ddechrau ymddangos, trodd yr hyn oedd wedi dechrau yn 2009, fel rhywbeth i goffau cwymp Wal Berlin, yn rhywbeth a ddaeth yn duedd, a hynny’n gyflym, wrth adrodd ynghylch y profiad o fyw yn Nwyrain yr Almaen.
Ymhlith y comics ffuglen a ffeithiol hyn ar hanes Dwyrain yr Almaen, mae is-grŵp o nofelau graffig sy'n ceisio cysylltiad amlwg â ffurfiau mwy traddodiadol o adrodd hanes, megis ffotograffiaeth ddogfennol, casgliadau archifol, ac arddangosfeydd mewn amgueddfeydd. Nid dim ond mabwysiadu rhai o strategaethau’r sefydliadau hyn o gadw diwylliant ar gof a chadw mae’r hanesyddiaethau graffig hyn, ond maent hefyd yn cynnig sylwadau ar y ffordd y mae hanes a'r cof yn cael eu llunio drwyddynt.
Yn y cyflwyniad hwn, defnyddir dau gomic sy’n ymdrin â hanes Dwyrain yr Almaen, yn astudiaethau achos, er mwyn dangos sut mae hanesyddiaeth raffig yn datgelu prosesau hanfodol ysgrifennu hanes, gan hawlio’i lle hefyd mewn dadleuon am wirionedd a dilysrwydd hanesyddol.
Bywgraffiad
Mae Elizabeth “Biz” Nijdam yn ysgolhaig-sy’n-ymsefydlwr ac yn Ddarlithydd yn Adran Astudiaethau Canol, Dwyrain a Gogledd Ewrop, ym Mhrifysgol Columbia Brydeinig yn Vancouver, Canada, lle mae hi'n byw ac yn gweithio ar diriogaethau traddodiadol, hynafol, na chawsant eu hildio, Cenhedloedd Musqueam, Squamish, a Tsleil-Waututh. Ar hyn o bryd mae hi'n cwblhau drafft cyntaf ei llyfr Graphic Historiography: East German Memory Discourses in Comics and Graphic Novels (Gwasg Prifysgol Talaith Ohio). Mae ymchwil ac addysgu Biz yn cynnwys trafod cynrychioli hanes mewn comics, comics a chyfryngau newydd ar fudo gorfodol, archwilio croestoriadau rhwng astudiaethau brodorol ac astudiaethau Almaeneg ac Ewropeaidd, a methodolegau ffeministaidd yn y celfyddydau graffig. Mae Biz hefyd yn aelod o Bwyllgor Gweithredol y Fforwm Rhyngwladol ar gyfer Celfyddyd y Comic a Bwrdd Gweithredol y Gymdeithas Astudiaethau Comics.
Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 11 Mai i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.