Ewch i’r prif gynnwys

Perfformedd mewn Cyfieithu, Perfformedd Cyfieithu: Nodiadau Damcaniaethol ar Ymchwilio i Arferion Cyfieithu a Dehongli mewn Cymunedau b/Byddar a Thrawsryweddol

Dydd Mercher, 12 October 2022
Calendar 14:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Polaroids of individuals smiling

Digwyddiad wyneb i wyneb gyda Chymrodyr Ymchwil Ôl-ddoethurol Marie Curie yn yr Ysgol Ieithoedd Modern, Dr Joanna Chojnicka a Dr Angela Tiziana Tarantini. Trefnir y digwyddiad gan thema ymchwil Astudiaethau Traws-wladol, Diwylliannol a Gweledol yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Gan weithio o wahanol safbwyntiau, bydd Dr Joanna Chojnicka a Dr Angela Tiziana Tarantini yn dadansoddi arferion naratif a chyfieithu o fewn ac ar gyfer grwpiau sy'n agored i niwed. Bydd Dr Chojnicka yn archwilio'r tebygrwydd rhwng ideolegau rhywedd ac ieithyddol a bydd Dr Tarantini yn craffu ar berfformedd arferion cyfieithu sydd wedi'u hanelu at y gymuned Fyddar. Rhennir y sgwrs yn ddwy ran.

Rhan 1: Dr Joanna Chojnicka
Bydd Dr Chojnicka yn trafod y syniad fod amlieithrwydd yn ansefydlogi'r ideoleg "un genedl - un iaith" yn yr un ffordd ag y mae'r ymbarél trawsryweddol yn ansefydlogi'r drefn rywedd ddeuaidd, gan ddefnyddio astudiaethau achos o arferion amlieithog a chyfieithu mewn naratifau trawsnewid rhywedd. Gellir ystyried damcaniaethu rhywedd o'r safbwynt trawsryweddol fel prosiect (ôl-drefedigaethol) i ddisgrifio'r canol o'r cyrion. Yn yr un modd, gall damcaniaethu agweddau at iaith o safbwynt amlieithrwydd a chyfieithu ddangos lluniedigrwydd a mympwyoldeb categorïau ieithyddol confensiynol, gan arwain at ieithyddiaeth perthnasoedd, cysylltiadau, ymgorfforiadau ac estyniadau.

Bywgraffiad: Cyflawnodd Dr Joanna Chojnicka ei PhD mewn Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Adam Mickiewicz yn Poznań yn 2012 ac mae wedi gweithio ar brosiectau mewn astudiaethau rhywedd, rhywioldeb a disgwrs yn ogystal ag ieithoedd lleiafrifol yn Konstanz, Bremen a Poznań cyn dod i Gaerdydd ym mis Medi 2021.

Rhan 2: Dr Angela Tiziana Tarantini
Bydd Dr Taranatini yn trafod y syniad o berfformedd fel elfen a chludwr hygyrchedd gan wahaniaethu'n glir rhwng "hygyrchedd" a "mynediad". Gan ganolbwyntio ar gerddoriaeth boblogaidd a ddehonglir mewn iaith arwyddion, bydd Tarantini yn dadlau wrth ddadansoddi cyfieithu yn y celfyddydau perfformio, y dylid cyfuno'r syniad o berfformedd fel y'i bwriedir mewn Astudiaethau Cyfieithu a'r syniad o berfformedd mewn Astudiaethau Perfformio. Bydd yn dangos pan anelir cyfieithu yn y celfyddydau perfformio at ganiatáu mynediad at 'destun', fod elfen berfformiadol cyfieithu yn gweithredu i gludo hygyrchedd. Bydd felly'n damcaniaethu perfformedd fel maes ymchwil mewn Astudiaethau Hygyrchedd.

Bywgraffiad: Cyflawnodd Dr Angela Tiziana Tarantini  ei PhD mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Monash, lle cyflawnodd ei hymchwil mewn cyfieithu theatr, a bu'n tiwtora nifer o unedau mewn Astudiaethau Cyfieithu a Dehongli, Ieithyddiaeth ac Astudiaethau Eidalaidd cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd.

Ar hyn o bryd, mae Dr Joanna Chojnicka a Dr Angela Tiziana Tarantini yn Gymrodyr Ymchwil Ôl-ddoethurol Marie Curie yn yr Ysgol Ieithoedd Modern.

Trefn y Digwyddiad
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal wyneb i wyneb.

Gwybodaeth am ddiogelwch yn ystod pandemig COVID-19
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal wyneb-yn-wyneb yn yr Ysgol Ieithoedd Modern. Gan fod cael eich heintio â COVID-19 yn risg o hyd, byddwn yn cymryd y camau canlynol ar gyfer y digwyddiad:
•    Ni fydd mwy o bobl yn yr ystafell na’r nifer uchaf a argymhellir (h.y. 82 o bobl).
•    Bydd y ffenestri ar agor i helpu i awyru’r ystafell.
•    Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Caerdydd yn argymell yn gryf eich bod yn gwisgo gorchudd wyneb ar y campws pan na fydd modd cadw pellter cymdeithasol.
•    Ni fydd bwyd na diod yn cael eu cynnig.

Cofrestru
Cofrestrwch trwy glicio ar y botwm ‘Cofrestrwch’ ar y ddewislen ar yr ochr chwith o'r dudalen hon.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 28 April i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.