Diogelu eich hunaniaeth seiber
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Protect Yourself in Cyber Space](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2616795/Protect-Yourself-in-Cyber-Space-2022-4-6-14-19-40.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Gall ymosodiad seiberddiogelwch dargedu ac effeithio ar unrhyw un yn unrhyw le - sefydliadau ac unigolion, yr ifanc a'r henoed. Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, ac yn enwedig yn ystod y pandemig, pan fydd ein cymdeithas yn dibynnu'n drwm ar dechnoleg ddigidol, dyfeisiau clyfar a gwasanaethau ar-lein, mae'n hollbwysig sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r peryglon sy'n gysylltiedig â seiberddiogelwch a thorri preifatrwydd ac yn gwybod sut i'w hosgoi ac ymateb iddyn nhw.
Nod y seminar yw lledaenu ymwybyddiaeth i unigolion yng Nghymru ar sut i gadw'n ddiogel a chynnal ymreolaeth haeddiannol wrth bori ar y we a defnyddio'r ystod eang o wasanaethau y mae'n ei darparu.
Abercws
Heol Senghennydd
Caerdydd
CF244AX