Ensemble Jazz Prifysgol Caerdydd dan arweiniad Huw Warren gyda Byron Wallen (trwmped)
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Byron Wallen](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2613074/Byron-Wallen-2022-3-21-18-38-0.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Noson amrywiol o gerddoriaeth gyfoes byrfyfyr sy’n cynnwys darnau o Brasil gan Hermeto Pascoal a gweithiau gwreiddiol.
Byron Wallen (trwmped)
Symbylwyd gwaith cynnar pwysicaf Byron Wallen Tarot Suite 1994 trwy ei gariad at fytholeg a simboliaeth, sy’n adlewyrchu siwrne trwy fywyd sy’n seiliedig ar agwedd pan-gyfandirol a rhyngddisgyblaethol. Bu astudiaethu Byron o seicoleg dirnadol o gymorth i ddatblygu cysyniad o gerddoriaeth fel modd i iachau. Mae Wallen yn ennyn ymwybyddiaeth ac yn galluogi newidiadau trwy ddatgloi rhwystrau a hynny trwy sain. Ystyrir ef yn ffigwr arloesol yn y byd jazz ac mae’n ysgrifennwr a chynhyrchydd sydd wedi cael comisiynau gan yr Amgueddfa Wyddonol, PRS, y BBC, y Jerwood Foundation, Canolfan y Southbank , Y Theatr Gendlaethol, Cyngor y Celfyddydau, FIFA a Sage Gateshead. Mae hefyd wedi cynhyrchu effeithiau seiniol i Universal Pictures, Warner Bros a Game of Thrones. Mae ei fand Four Corners yn perfformio ar ei albwm ddiweddaraf “Portrait,” sy’n deyrnged i’w gartref mabwysiedig yn ne-ddwyrain Llundain. Mae prosiect ganddo sy’n uno ysgolion, lleoliadau, cerddorion a thrigolion er mwyn cryfhau perthynas un ag oll yn eu cymunedau. Dyfarnwyd Jazz Innovation Award y BBC i Wallen yn 2003 a rhoddwyd ei enw ymlaen sawl tro ar gyfer gwobr MOMA. Yn 2017 enillod Wobr Paul Hamlyn, Yn 2020 enwyd cryno ddisg ei fand Four Corners fel albwm gorau 2021 ac fel y band gorau yng Ngwobrwyon Jazz y Senedd.
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB