Ensemble Baroc Prifysgol Caerdydd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Bydd yr Ensemble Baroc yn canolbwyntio ar repertoire lleisiol ac offerynnol unigryw a ysgrifenwyd ar gyfer y lleisiau soprano ac alto ifanc yn y sefydliadau elusennol yn Fenis, yr Ospedale Grandi , a oedd yn bodoli yn gynnar yn y 1700au. Roedd cyfansoddwyr yr Ospedale ymhlith y mwyaf dawnus ac eangfrydig yn Ewrop ar y pryd, ac yn enwog nid yn unig yn nhiroedd Fenis ond hefyd yn Fienna, Llundain, Rhufain a S.Petersburg. Ymunwch â ni i wrando ar gerddoriaeth soniarus gan Antonio Vivaldi, Baldassare Galuppi, Johann Adolph Hasse, Antonio Lotti ac eraill, a chlywn hefyd agorawd gan Marianna Martines, un o’r cyfansoddwragedd enwocaf yn Fenis yn ystod y ddeunwfed ganrif.
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB