Ewch i’r prif gynnwys

Model Mynediad Agored Diemwnt: pa effaith ar ymchwil?

Dydd Llun, 28 Mawrth 2022
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of an open book

Gan fod y ffioedd ar gyfer prosesu erthyglau yn rhan o fodel Mynediad Agored Aur yn cynyddu, mae sylw wedi bod yn troi at fodel Mynediad Agored Diemwnt, nad yw’n codi ffioedd ar gyfer prosesu erthyglau gwyddonol.  Mae cyfnodolion Mynediad Agored Diemwnt yn cynrychioli canran fawr o allbwn cyhoeddi Mynediad Agored. Prifysgolion, cymdeithasau dysgedig a sefydliadau nid er elw sy’n berchen arnynt ac sy’n eu rheoli’n bennaf. 

Gwnaeth dau sefydliad sy'n arwain y gwaith o ddatblygu strategaeth ryngwladol ar Fynediad Agored, sef Science Europe a Coalition S, lansio menter yn ddiweddar a fydd yn cynnig cymorth byd-eang i ddatblygu a chynnal model Diemwnt.  Cyhoeddwyd y cynllun gweithredu ar 2 Mawrth.

Ymunwch â ni mewn gweminar a fydd yn para awr, lle bydd panel o arbenigwyr yn esbonio ac yn trafod y datblygiadau diweddaraf hyn ym maes cyhoeddi Mynediad Agored a’r goblygiadau i ymchwilwyr, sefydliadau ymchwil-ddwys, cymdeithasau dysgedig, llyfrgelloedd a chyhoeddwyr eraill.  Byddwch chi, y gynulleidfa, yn gallu rhyngweithio â’r panelwyr a gofyn cwestiynau iddynt.

Mae’r gweminar hwn yn rhad ac am ddim. Croeso i bawb.

Ein panel:

  • Yr Athro Johan Rooryck, Cyfarwyddwr Gweithredol, Coalition S
  • Yr Athro Sarah de Rijcke, Athro Gwyddoniaeth, Technoleg ac Astudiaethau Arloesedd / Cyfarwyddwr Gwyddonol y Ganolfan Astudiaethau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Prifysgol Leiden
  • Dr Bregt Saenen, Uwch Swyddog Polisi Gwyddoniaeth Agored, Science Europe
  • Yr Athro Toma Susi, Prifysgol Fienna, Aelod o Fwrdd Cynghori Gwyddonol, Open Research Europe
  • Yr Athro Demmy Verbeke, Athro Ysgoloriaethau Agored a Phennaeth KU Leuven Libraries Artes

Cadeirydd y weminar fydd yr Athro Ole Petersen, Is-Lywydd Anrhydeddus, Academia Europaea.

Rhannwch y digwyddiad hwn