Hanes i’r Gymuned: Abadau’r Canol Oesoedd ac Ysgrifennu Hanes 'Cyflwynir y ddarlith hon yn Saesneg'
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Cynhelir ein darlith nesaf, sef Archwilio’r Gorffennol, yn rhad ac am ddim ac mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Hanesyddol, ddydd Mercher 30 Mawrth 2022. Cofrestrwch i gadw eich lle, a byddwn ni’n anfon dolen Zoom atoch chi ychydig ddyddiau cyn y ddarlith.
Ar gyfer darlith mis Mawrth, rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Dr Benjamin Pohl (Prifysgol Bryste), i siarad ar y thema: ‘History for the Community: Medieval Abbots and the Writing of History’:
Yn y ddarlith hon, mae Dr Benjamin Pohl (Prifysgol Bryste) yn trin a thrafod sut a pham yr aeth abadau Benedictaidd canoloesol ati’n uniongyrchol i ysgrifennu hanes drwy gofnodi traddodiadau ac atgofion cyfunol eu cymunedau mynachaidd. Pa adnoddau oedd ar gael i'r abad-haneswyr hyn nad oedd gan fynachod cyffredin? Pa wahaniaeth a wnaeth pan oedd yr hanesydd mynachaidd ei hun yn abad/abades? A oedd yn beth cyffredin i abadau neu abadesau canoloesol ysgrifennu am hanes, neu ai eithriad oedd hyn? Mae astudio gwaith abad-haneswyr canoloesol yn rhoi cipolwg pwysig inni ar y berthynas rhwng arweinwyr o fynaich a’r gwaith o gyfundrefnu hunaniaethau cymunedol yn y gorffennol a'r presennol.