Lled-ddargludyddion ar gyfer Ffotoneg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Lled-ddargludyddion ar gyfer Ffotoneg
Wedi'i drefnu mewn partneriaeth â High-Tech NL ac wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, mae CSconnected yn cyflwyno Lled-ddargludyddion ar gyfer Ffotoneg (‘Semiconductors 4 Photonics’).
Mae lled-ddargludyddion a ffotoneg wrth wraidd ystod eang o dechnolegau hanfodol gan gynnwys cysylltedd, gofal iechyd, synhwyro ac ynni.
Bydd gweminar Lled-ddargludyddion ar gyfer Ffotoneg yn canolbwyntio ar adeiladu a chryfhau'r cysylltiadau presennol rhwng y Deyrnas Unedig a'r Iseldiroedd.
Ymunwch â ni ddydd Mawrth, 8 Mawrth 2022 am 9am GMT / 10am CET, i glywed gan glystyrau CSconnected a High Tech NL, ynghyd â phanel o siaradwyr arbenigol yn y sector Lled-ddargludyddion ar gyfer Ffotoneg.
Agenda
09:00/10:00 | Croeso a Chyflwyniadau agoriadol Chris Meadows, CSconnected a Chadeirydd y DU |
09:05/10:05 | Trosolwg Clwstwr CSconnected Chris Meadows, CSconnected a Chadeirydd y DU |
09:15/10:15 | Cyflwyniadau Partneriaid Clwstwr CSconnected a sesiwn Holi ac Ateb |
Ali Anjomshoaa, y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CSC) Howard Rupprecht, Rockley Photonics Steve Whitby, MicroLink Devices
| |
09:45/10:45 | Trosolwg Clwstwr High Tech Netherlands Tom van der Dussen, High Tech NL a Chadeirydd NL |
10:15/11:15 | Cyflwyniadau Partneriaid Clwstwr High Tech Netherlands a sesiwn Holi ac Ateb |
Charles Smit, Nexperia Jurgen van Berkum, Eurofins EAG Carol de Vries, PhotonDelta
| |
10:25/11:25 | Cyfleoedd Ariannu a Sylwadau i Gloi Tom van der Dussen, High Tech NL a Chadeirydd NL Chris Meadows, CSconnected a Chadeirydd y DU
|
10:30/11:30 | Gweminar yn Gorffen |
Pam y dylid mynychu
Gan adeiladu ar gysylltiadau cryf rhwng y DU a'r Iseldiroedd, rydym am archwilio potensial marchnadoedd Ffotoneg a alluogir gan Led-ddargludyddion yn y dyfodol gyda'r nod o archwilio cyfleoedd cydweithredol ar gyfer datblygu a manteisio ar dechnolegau newydd.
Ynghylch
High Tech NL
Mae High Tech NL wedi ymrwymo i fuddiannau cyfunol y sector, gan ganolbwyntio ar arloesi hirdymor a chydweithredu rhyngwladol. Mae aelodau'n rhannu eu gwybodaeth, yn chwilio am ffyrdd o gydweithredu a defnyddio'r rhwydwaith pwerus i ddod yn arloeswyr mwy llwyddiannus. High Tech NL yw sylfaenydd Holland Robotics a chyd-sylfaenydd Holland Semiconductors.
CSconnected
CSconnected yw'r brand cyfunol ar gyfer nifer cynyddol o weithgareddau sy'n gysylltiedig â lled-ddargludyddion uwch yng Nghymru. Mae'n gartref i gymuned unigryw o sefydliadau academaidd, cyfleusterau prototeipio a galluoedd gweithgynhyrchu cynhyrchiol byd-eang, sy'n cydweithio ar draws ystod o raglenni ymchwil ac arloesi. Mae CSconnected mewn sefyllfa unigryw i ddatblygu mantais fyd-eang mewn technoleg alluogi sofran, allweddol a fydd yn caniatáu i Gymru a'r DU gynyddu masnach yn fyd-eang mewn sectorau hanfodol megis cyfathrebu 5G, cerbydau awtonomaidd a thrydan, dyfeisiau meddygol uwch, ac electroneg defnyddwyr yn y dyfodol.
Yn 2020, derbyniodd CSconnected arian gan y llywodraeth a ddarparwyd drwy gronfa flaenllaw ‘Strength in Places’ (SIPF) Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Mae’r prosiect SIPF CSconnected 55 mis werth cyfanswm o £43 miliwn, gyda chymorth £25 miliwn o gronfeydd UKRI. Mae'n adeiladu ar gryfderau rhanbarthol Cymru ac yn integreiddio rhagoriaeth ymchwil gyda chadwyn gyflenwi ranbarthol unigryw ym maes gweithgynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd.
Llywodraeth Cymru
Ewch i Business Wales i gael rhagor o wybodaeth.