CYNGERDD CAPPELLA FEDE - Y DEML HEDDWCH
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Furfiwyd Cappella Fede gan ei gyfarwyddwr Peter Leech yn 2008 ac mae enw’r grŵp wedi ei enwi fel teyrnged i Innocenzo Fede , maestro di cappella Capel Catholig
Brenin Iago 2. Mae’r ensembl yn cynnwys perfformwyr o rai o ensemblau lleisiol ac offerynnol gorau y Deyrnas Unedig. Maent yn arbenigo mewn cerddoriaeth grefyddol a seciwlar y cyfnod c. 1650-1790 ac yn gweithio mewn dull blaengar iawn o safbwynt ymchwil academaidd cyfredol. Mae’r grŵp wedi perfformio ystod eang o’r repertoire gan gynnwys perfformiadau cyntaf yn y cyfnod modern o weithiau baroc a chlasurol cynnar gan gyfansoddwyr tebyg i Innocenzo Fede, Sebastiano Bolis, Antonio Cossandi, Miguel Ferreira, Antoine Selosse SJ, Niccolò Jommelli a Giovanni Battista Costanzi. Mae’r ensembl wedi rhoi cyngherddau mewn amryw o ganolfannau fel Lerpwl, Durham, Henffordd, Llundain a Rhufain. Disgrifiwyd y CD o 2016, The Cardinal King (Toccata Classics) ar record review BBC Radio 3 fel ‘canu consort heb ei debyg.’ Un o’r uchafbwyntiau mwyaf diweddar oedd cyngerdd yn S. Giorgio in S.Velabro, Rhufain fel rhan o ddathliadau canoneiddio S. John Henry Neman (2019). Mae’r cyngerdd hwn yng Nghaerdydd (eu cyngerdd cyntaf yng Nghymru) yn ddathliad o enedigaeth y cerddor dawnus Novara Ursulinea a’r lleian a chyfansoddwr Isabella Leonarda yn 1620.
Rhaglen i gynnwys:
Isabella Leonarda: Alma redemptoris Mater, Litanie della Beata Vergine Maria
Lucrezia Vizzana: Protector noster
Maria Xaveria Peruchona: Cessate tympana
Maria Rosa Coccia: rhannau o’r Magnificat & Veni creator spiritus
Y Deml Heddwch
King Edward Vii Avenue
Caerdydd
CF10 3AP