Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast gyda Neville Southall
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Sut Ydych Chi?
Mae dechrau blwyddyn newydd yn gallu bod yn her....mae’n oer, yn dywyll ac mae amseroedd da yn gallu teimlo ymhell i ffwrdd. Yna, ychwanegwch flwyddyn ARALL o bandemig byd-eang, ac mae’r canlyniad yn un llwm. Mae Neville Southall, cyn-gôl geidwad Cymru ac Everton, wedi delio a’i gyfran deg o “Mind Games: The Ups and Downs of Life and Football”, fel chwaraewr pêl droed o’r lefel uchaf, ac ers i’w yrfa pêl-droed ddod i ben, mae wedi cysegru ei yrfa i hyrwyddo gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Yn y cyfweliad hwn gyda Dr Carolyn Strong o Ysgol Busnes Caerdydd, bydd yn rhannu rhai o’i brofiadau, er mwyn ein helpu ni a’n cyd-weithwyr yn ystod yr adeg hon.
Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).