Gŵyl Blwyddyn Newydd Tsieineaidd Ar-lein i blant ysgol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Tiger image and text saying: Happy Chinese New Year 2022 Year of the Tiger](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2597949/Chinese-New-Year-2022-The-Year-of-the-Tiger-2022-1-21-12-34-29.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Ddydd Mawrth 1 Chwefror, mae croeso cynnes i ddisgyblion ymuno â Sefydliad Confucius Caerdydd i ddathlu blwyddyn newydd y lleuad. Bydd tiwtoriaid Tsieinëeg y Sefydliad yn ffrydio ystod amrywiol o sesiynau rhyngweithiol a sesiynau wedi'u recordio ar-lein ar gyfer plant ysgolion cynradd ac uwchradd megis:
- gweithdai celf a chrefft
- adrodd straeon traddodiadol
- dysgu am y sidydd Tsieineaidd a
- beth i'w wneud a’r hyn i BEIDIO â'i wneud yn ystod y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.
Mae'r sesiynau ar agor i ysgolion ledled Cymru ar 1 Chwefror, a bydd yn rhaid i athrawon gofrestru i ymuno. Os byddwch chi’n methu mynd i rai neu bob un o’r sesiynau, bydd y fideos ar gael ar-lein o 2 Chwefror.
Ewch i’n tudalennau i gael rhagor o wybodaeth a sut i wneud cais.