Cornel Tsieneaidd: Blwyddyn Newydd Tsieineaidd 2022
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Image of a tiger to mark the Year of the Tiger.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2597154/Image-of-a-tiger-to-mark-the-Year-of-the-Tiger.-2022-1-18-13-16-35.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Pan fydd pobl yn sôn am Ŵyl y Gwanwyn, bydd y mwyafrif yn meddwl mai dathliad undydd yn unig yw hwnnw. Y gwir yw ei fod yn para tua 15 diwrnod a bod pob diwrnod yn llawn ystyr a gweithgaredd.
Yn y cyflwyniad diwylliannol hwn, byddwn yn egluro beth mae Gŵyl y Gwanwyn yn ei olygu, pam mae'r ŵyl hon mor arbennig i bobl Tsieineaidd, a beth mae pobl Tsieineaidd yn ei wneud yn ystod Gŵyl y Gwanwyn.
Bydd tarddiad Gŵyl y Gwanwyn, caneuon a straeon gwerin traddodiadol, bwydydd arbennig fel twmplenni ac yuanxiao ynghyd â gweithgareddau fel dawns y Ddraig a'r Llew hefyd yn cael eu cyflwyno.
Bydd hwn yn sesiwn ryngweithiol gyda chyfleoedd i sgwrsio