Imiwnotherapi canser: datblygiad sylweddol neu botensial heb ei wireddu
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae imiwnotherapi canser yn ddatblygiad meddygol sylweddol sy'n defnyddio celloedd gwaed gwyn - a elwir yn gelloedd T - i atal, rheoli a dileu canser. Mae’r imiwnotherapi yma yn gweithio'n wyrthiol i rai cleifion (15-20%), ond nid yw'r rhan fwyaf o gleifion yn ymateb, gan wneud angen brys i ddatgloi'r addewid o therapi celloedd T.
Bydd yr Athro Awen Gallimore yn rhoi trosolwg o ymchwil imiwnotherapi Caerdydd, yn rhannu darganfyddiadau sylfaenol yn y labordy a cynlluniau ar gyfer treialon cyfnod cynnar mewn cleifion. Mae Lorenzo Capitani, myfyriwr Doethuriaeth yn yr Ysgol Feddygaeth, yn ymchwilio i ffyrdd o dynnu’r breciau oddi ar y system imiwnedd, er mwyn helpu celloedd T i guro canser yn fwy effeithiol.