Nid yn drwsgl: deall Anhwylder Cydlynu Datblygiadol (Dyspracsia)
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Anhwylder Cydlynu Datblygiadol (DCD) neu dyspracsia yn anhwylder modur cyffredin a gydol oes. Mae DCD yn effeithio'n sylweddol ar fywyd dyddiol, cyflawniadau addysgol, perthnasoedd a chyflogaeth; yn aml yn arwain at bryder uchel, hunan-barch isel, a ffitrwydd gwael. Mae plant sydd â'r cyflwr yn aml yn ei chael hi'n anodd dysgu a chyflawni tasgau modur. Er ei fod yn effeithio oddeutu 5% o blant, ychydig a wyddys am achos y cyflwr.
Mae ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd Dr Catherine Purcell a Dr Jennifer Keating yn ymchwilio i pam mae plant â DCD yn ei chael hi'n anodd dysgu tasgau modur. Nod eu hymchwil yw helpu clinigwyr ac athrawon i gefnogi plant â DCD i ddysgu a gwella tasgau modur, gan wella ansawdd eu bywyd.