Awto-ethnofioleg a Chyfieithu Seediq
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Gweminar gyda Dr Darryl Sterk (Prifysgol Lingnan) sy’n cael ei gynnal gan y Tîm Hanes a Threftadaeth yn yr Ysgol Ieithoedd Modern o dan y thema ymchwil ‘ymateb i argyfyngau’. Cadeirir gan Dr Luisa Pèrcopo.
Crynodeb
Yn y gweminar hwn, bydd Dr Sterk yn trafod y materion sydd dan sylw wrth astudio gwybodaeth frodorol. Yn ôl ethnofiolegwyr, mae gan wybodaeth o'r fath yr un statws ag unrhyw scientia (gwybodaeth) tan yr 17eg ganrif, ar wahân i'r ffaith ei bod ar lafar yn unig ac yn ymhlyg i'r grŵp. Dros y 125 mlynedd diwethaf, mae ethnofiolegwyr wedi ysgrifennu amdani a’i mynegi. I ddechrau, nid oeddent yn siarad ieithoedd y bobl roeddent yn eu hastudio fel mamiaith, ond yn fwy diweddar, yn enwedig ers dechrau’r mudiad brodorol byd-eang yn y 1960au, maent wedi bod yn ‘awto-ethnofiolegwyr’ dwyieithog, fwy neu lai, sydd o bosibl yn cael eu hysgogi gan bryderon ynghylch methu â throsglwyddo diwylliant ac iaith rhwng cenedlaethau. Wrth gyfieithu eu gwybodaeth draddodiadol yn yr amgylchiadau hyn, mae pobl frodorol o bosibl yn ei hailddyfeisio. Yn y gweminar hwn, bydd Dr Sterk hefyd yn ystyried y mathau o dystiolaeth y gallai ysgolhaig eu defnyddio i gyflwyno dadl o'r fath drwy astudiaeth achos o bobl Seediq sy’n hanu o ganol Taiwan.
Bywgraffiad
Mae Darryl Cameron Sterk yn addysgu ieithyddiaeth ac ysgrifennu, a chyfieithu o dro i dro, ym Mhrifysgol Lingnan yn Hong Kong. Mae'n cyfieithu ffuglen, yn enwedig gwaith am fyd natur gan Wu Ming-Yi o Daiwan, ac yn astudio cyfieithu diwylliannol brodorol yn Nhaiwan. Mae ei fonograff, ‘Indigenous Cultural Translation’, yn ystyried y broses gyfieithu dros ganrif a oedd yn sail i sgript y ffilm ‘Seediq Bale’ (a gafodd ei chyfarwyddo gan Wei Te-sheng yn 2011).
Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 23 Chwefror i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.