Llygredd Aer ac Iechyd y Cyhoedd: sut mae'r DU yn gwneud y tu allan i'r UE? Yr Athro Frank Kelly, Coleg Imperial, Llundain
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![SiH public lecture series logo](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0007/2594275/Science-in-Health-public-lecture-series-2022-1-6-9-43-17.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae aer glân, fel dŵr glân a bwyd heb ei halogi, yn hanfodol i iechyd da. Rydym i gyd yn gwybod bod llygredd aer yn gwneud niwed i’n hiechyd, ac eto nid ydym yn aml yn sylweddoli maint y broblem. Bob blwyddyn, mae 7 miliwn o bobl ledled y byd, ac oddeutu 34,000 o bobl yn y DU, yn marw cyn pryd o ganlyniad i lygredd aer.
Ar ôl blynyddoedd o oedi a dadlau, daeth Deddf yr Amgylchedd yn gyfraith yn y DU yn 2021. Fodd bynnag, wrth i safonau ystyrlon ar gyfer ansawdd aer amgylchynol gael eu mabwysiadu’n araf yn y DU, mae ffocws yr agenda ymchwil yn newid yn gyflym i ansawdd aer dan do. Mae cymhlethdod cynyddol aer dan do’n golygu bod angen gwneud llawer mwy o waith i wella dealltwriaeth o’i oblygiadau posibl i’n hiechyd.