O ddatganiadau i gymryd camau: gweithio mewn partneriaeth ar yr argyfwng yn yr hinsawdd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2583670/Sustainability_GettyImages-474070396.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae'r drafodaeth ar-lein hon yn dwyn ynghyd banelwyr o Brifysgol Caerdydd, Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru i ystyried y cynnydd y mae pob un wedi ei wneud ers eu datganiadau ar yr argyfwng yn yr hinsawdd ddiwedd 2019.
Ymhlith y cwestiynau sy'n cael eu hystyried y mae
- A yw'r cynnydd wedi bod yn ddigonol?
- Sut mae’r heriau a’r cyfleoedd yn sgîl COVID-19 wedi dylanwadu ar y cynnydd?
- Sut mae sicrhau newid sylweddol er mwyn cymryd camau go iawn o ran yr hinsawdd yma yng Nghymru?
- Sut y dylai sefydliadau mawr gydweithio'n fwy?
- Pa ymchwil sydd ei angen i arwain a llywio'r ymdrechion hyn?
Yn ogystal â chlywed gan leisiau blaenllaw sy'n cynrychioli tri rhanddeiliad allweddol, bydd y sesiwn hefyd yn annog cynulleidfa ar-lein i roi ei barn gan herio’r cynnydd yn adeiladol hyd yma. Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru 2021.
Cadeirydd: Yr Athro Lorraine Whitmarsh, Cyfarwyddwr - Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewid Cymdeithasol (CAST), Prifysgol Caerfaddon
Siaradwyr:
Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru
Y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd
Yr Athro Mike Bruford, Deon Cynaliadwyedd Amgylcheddol, Prifysgol Caerdydd
Gallwch chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad a’i wylio ar blatfform COP Cymru 21