Darlith Flynyddol: Brexit ac Ynys Iwerddon
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Brigid Laffan](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2582322/Brigid-Laffan-2021-11-4-16-11-39.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Bydd yr Athro Brigid Laffan, sy’n cael ei chydnabod fel un o brif arbenigwyr Iwerddon ar Ewrop, yn trafod pwnc 'Brexit ac Ynys Iwerddon', gan ddadansoddi sut y gwnaeth Iwerddon ymateb i Brexit a sut mae wedi effeithio ar y cydbwysedd gwleidyddol a sefydliadol bregus oedd yn ganolog i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith (GFA). Bydd disgwyl hefyd i’w darlith gwmpasu ymateb llywodraeth Dulyn i Brexit a sut mae’r prosesau hyn wedi effeithio ar y berthynas rhwng Llundain a Brwsel.