Dathlu canmlwyddiant darganfod inswlin - ble nesaf?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![SiH lecture series logo](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2580930/Science-in-Health-public-lecture-series-logo-2021-10-29-13-49-7.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae inswlin yn hormon rhyfeddol sy'n anhepgor o ran cynnal metabolaeth ac mae’n hanfodol i fywyd. Pan fydd y celloedd yn y corff sy'n creu inswlin yn cael eu difrodi gan y system imiwnedd, bydd pobl yn datblygu diabetes Math 1.
Rydyn ni’n tynnu sylw at y datblygiadau gwyddonol sydd wedi arwain at 3 gwobr Nobel ers darganfod inswlin, ac yn sgîl y ffaith bod mwy o wybodaeth a dealltwriaeth, yn ogystal â thechnoleg newydd, rydyn ni hefyd yn edrych ar y ffordd mae bywyd wedi newid i bobl sydd â diabetes Math 1.
Sut bydd ein gwybodaeth bresennol yn llywio'r dyfodol i bobl sy'n byw yn sgîl diabetes Math 1, a beth fydd yn digwydd yn y dyfodol o ran triniaethau neu wellhad?