Zahra Hazari (Prifysgol Ryngwladol Florida)
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Zahra Hazari](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2580566/Zahra-Hazari-2021-10-27-17-41-26.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Yn yr Unol Daleithiau, mae bron i hanner y myfyrwyr sy'n astudio ffiseg yn yr ysgol uwchradd yn ferched, ond dim ond un o bump o'r myfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio ffiseg yn y coleg sy'n ferched. Mae'r patrymau hyn i’w gweld yn y DU hefyd gan fod llai o ferched na bechgyn yn parhau i astudio ffiseg unwaith eu bod yn un ar bymtheg oed.
Mewn ymateb i’r broblem hon, mae’r prosiect CAMU ’MLAEN (www.stepupphysics.org) wedi lansio menter genedlaethol yn yr UD i alluogi a helpu athrawon ffiseg mewn ysgolion uwchradd i ennyn diddordeb merched mewn ffiseg drwy newid syniadau cul pobl am ffiseg a hyrwyddo diwylliant cefnogol yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno rhywfaint o'r dystiolaeth ymchwil a ddefnyddir gan CAMU ’MLAEN i ddatblygu, profi a hyrwyddo strategaethau sy'n hwyluso datblygiad hunaniaeth ffiseg fel pwnc ac i annog merched ifanc i ystyried astudio ffiseg. Mae'r strategaethau hyn sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu defnyddio gan athrawon ffiseg fel rhan o'r ymgyrch genedlaethol, sydd wedi tyfu i gynnwys rhwydwaith o bum mil o athrawon ffiseg, gallu meddyliol, myfyrwyr ac aelodau o'r gymuned, i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ffisegwyr benywaidd.
(Cefnogir gan y Sefydliad Gwyddoniaeth Cenedlaethol o dan Grant Rhif 1720810, 1720869, 1720917 a 1721021).