Cyflwyniad i Mandarin ar gyfer athrawon
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Sefydliad Confucius Caerdydd Yn Eich Gwahodd I Ymuno Â'n Cwrs Ar-lein 6 Wythnos O Hyd Rhad Ac Am Ddim (*Tachwedd - canol Rhagfyr).
Cynhelir ein cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim, Cyflwyniad i Mandarin i Athrawon, am awr yr wythnos dros chwe wythnos. Siaradwr Tsieinëeg brodorol sy’n ei addysgu a byddwch yn dysgu hanfodion yr iaith. Bydd hyn yn caniatáu i chi ddatblygu'n broffesiynol ac yn bersonol yn ogystal â helpu eich disgyblion i ddysgu.
Unwaith y byddwch wedi cwblhau'r cwrs, cewch gyfle hefyd i symud ymlaen i gwrs Tsieinëeg i Ddechreuwyr Prifysgol Caerdydd sydd wedi’i ariannu’n llawn ym mis Ionawr neu fis Mai 2022.
Pam ddylwn i wneud y cwrs hwn?
- Dysgu hanfodion Tsieinëeg Mandarin
- Cyflwyno iaith newydd i'ch disgyblion
- Datblygu eich hun yn broffesiynol neu'n bersonol
- Symud ymlaen i gwrs Mandarin RHAD AC AM DDIM Prifysgol Caerdydd
- Cefnogi eich disgyblion gyda'u hastudiaethau Tsieinëeg
- Profiad o ddiwylliant gwahanol
- Byddwch yn rhan o integreiddio iaith ryngwladol yn eich ysgol yn barod ar gyfer y Cwricwlwm Newydd
I fynegi eich diddordeb a'r diwrnod/amser sydd orau gennych, cofrestrwch yma erbyn 10am ddydd Llun 1 Tachwedd.