O’r dyfnder y daeth! Astudio natur a hanes ein cefnforoedd mewn lle anarferol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![GeoTalks](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2580527/GeoTalks-2021-10-27-16-9-40.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae cyfres gweminarau GeoTalks yn addas i sawl cynulleidfa megis y cyhoedd, disgyblion yr ysgolion uwchradd a phroffesiynolion.
Seminar
Mae mynyddresi hwyaf y Ddaear ar waelod ein cefnforoedd: cribau canol y cefnforoedd, cadwn losgfynyddol miloedd o gilometrau o hyd. Mae’r cribau hynny wastad yn ychwanegu at waelod y cefnforoedd yn sgîl ymlediad y platiau tectonig ac yn ffurfio tua dau draean o wyneb y Ddaear o ganlyniad. Gan eu bod mor anodd eu cyrraedd, ychydig iawn sy’n hysbys am y sustemau llosgfynyddol hynny. Weithiau, daw darnau o waelod y môr i’r tir, gan ddatgelu ychydig am yr hyn sy’n digwydd yno. Yn y ddarlith hon, bydda i’n esbonio natur y darnau hynny a’r cliwiau y gallan nhw eu rhoi.
Siaradwr
Maximiliaan Jansen