Pyllau glo gwag a chynhyrchu ynni o’r ddaear yn y deyrnas hon
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae cyfres gweminarau GeoTalks yn addas i sawl cynulleidfa megis y cyhoedd, disgyblion yr ysgolion uwchradd a phroffesiynolion.
Seminar
Mae ffynonellau ynni cartrefi’r deyrnas wedi newid yn fawr dros y degawd diwethaf. Mae gorsafoedd trydan glo eu tanwydd wedi’u cau ac mae miloedd o ffermydd gwynt wedi’u codi ar yr arfordir ac yn y môr. Mae eisiau ffyrdd eraill o gynhyrchu ynni gwyrdd yn gyson am y bydd cyfnodau heb wynt weithiau. Mae ymchwilwyr yn archwilio miloedd o dwneli a thyllau hen lofeydd y deyrnas i weld a oes modd defnyddio’r dŵr cynnes sydd ynddyn nhw ar gyfer cynhyrchu ynni. Bydd y Dr Brabham yn trafod cyflwr y glofeydd ac yn sôn am arbrofion yn neheubarth Cymru a rhannau eraill o’r deyrnas i ddefnyddio’r ynni.
Siaradwr
Dr Peter Brabham