Dyfodol Creu Mannau Cynaliadwy
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![sustainable places](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2585909/Eventbrite-Email-Headers-004.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Wrth i'r byd ddechrau adfer yn sgîl effeithiau’r pandemig byd-eang, ac yn wyneb heriau parhaus argyfwng yr hinsawdd a bioamrywiaeth, does dim dwywaith gennym bod creu lleoedd cynaliadwy yn parhau i fod yr un mor bwysig â phan sefydlwyd y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy.
Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu yr hyn y mae’r Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy wedi ei gyflawni ac yn ystyried sut y bydd ein hymchwil yn y maes hwn yn y dyfodol yn mynd i’r afael â heriau’r presennol a rhai’r dyfodol.
Cynhelir sgyrsiau rhwng 12:30 a 1pm o bell drwy Zoom.
Rhwng 1:05 – 2:00yh byddwn yn cynnal tri panel arbenigol mewn ystafelloedd ymneilltuo ar wahân, ar y pynciau canlynol:
* Y Lleol a’r Byd-Eang
* Dyfodol ein perthynas â Natur
* Dyfodol y System Fwyd