Cyfieithu’r diwylliant perfformio: geiriau caneuon dwyieithog Cwmni Cyhoeddi Gwynn
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Cyfieithu’r diwylliant perfformio: geiriau caneuon dwyieithog Cwmni Cyhoeddi Gwynn
Bydd y papur hwn yn archwilio enghreifftiau o allbwn y cwmni cyhoeddi cerddorol, Cwmni Cyhoeddi Gwynn, Llangollen, yn ystod ei degawd cyntaf: 1937–47. Roedd yn arfer gan y cwmni i gyhoeddi geiriau caneuon yn Gymraeg ac yn Saesneg, i’w canu, ar bob cyhoeddiad.
Drwy graffu ar y math o destunau a ddewiswyd i’w cyfieithu gan y cwmni, yn ogystal â strategaethau cyfieithu unigol a ddefnyddiwyd gan brif gyfieithydd y cwmni yn y cyfnod, T. Gwynn Jones, dangosir sut y gellir ystyried Cwmni Gwynn a’i gyfranwyr fel gweithredwyr yn y diwylliant perfformio Cymreig, a sut y dylanwadwyd ac y siapiwyd y diwylliant hwnnw gan gyfieithiadau geiriau caneuon.