Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu dros Frecwast – Cyfweliad â David Sproxton, Cyd-Sylfaenydd ac Ymddiriedolwr
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Aardman – Morph](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2561756/6ceec3a92ad6328e9d1820de5b759e3bb6bd7bd5.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Aardman Anmations a Pherchnogaeth gan Weithwyr – cyfweliad â David Sproxton, Cyd-Sylfaenydd ac Ymddiriedolwr
Ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd Cyd-Sylfaenwyr Aardman Animations, Peter Lord a David Sproxton, eu bod yn paratoi’r cwmni ar gyfer llwyddiant parhaus dros y degawdau nesaf trwy drosglwyddo’r cwmni i Berchnogaeth gan y Gweithwyr, gan werthu’r cwmni i’r gweithlu, yn ôl bob pwrpas. Nod y trosglwyddiad hwn oedd sicrhau bod Aardman yn parhau i fod yn annibynnol, a thrwy hynny sicrhau etifeddiaeth a diwylliant creadigol y cwmni am ddegawdau i ddod.
Yn 2020, tyfodd y nifer o fusnesau sy’n eiddo i’r gweithwyr gan 30%, ac mae hynny’n debyg o gynyddu erbyn diwedd 2021. Ymunwch gyda ni i glywed hanes personol David Sproxton, ac i ddarganfod pam ein bod yn gweld twf mor sylweddol mewn busnesau lle mae gan gweithwyr gyfran. Efallai y gall Perchnogaeth gan Weithwyr fod yn opsiwn arbennig i’ch busnes chi?
Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).