Gobaith newydd ar gyfer triniaeth canser: y dechneg llawfeddygol yn darparu cemotherapi wedi'i dargedu’n
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae ymchwilwyr yng Nghaerdydd yn defnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd i ddatblygu a threialu triniaethau arloesol a fydd yn rhoi gwell siawns i gleifion oroesi canser.
Ymunwch â Dr Sadie Jones, Uwch Ddarlithydd Clinigol a Llawfeddyg Ymgynghorol Oncoleg Gynaecoleg wrth iddi rannu gyda ni manylion techneg llawfeddygol gyffrous ac arloesol sy'n cael ei ddatblygu i drin a chrebachu canserau eilaidd yr abdomen (ofarïaidd, stumog a'r coluddyn). Drwy chwistrellu cemotherapi aerosol yn uniongyrchol i’r abdomen yn ystod llawfeddygaeth laparosgopi (ceuedig), mae'r feddyginiaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol, gyda llai o sgîl-effeithiau gwenwynig a risgiau i gleifion.