Deall yr argyfwng: iechyd meddwl pobl ifanc
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae cyfraddau problemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc yn cynyddu, yn enwedig o ran problemau emosiynol merched, ac mae 1 o bob 6 o bobl ifanc yn cael anawsterau mawr o ran eu hiechyd meddwl. Gall hyn effeithio’n fawr ar eu datblygiad, y mathau o gyfeillgarwch sydd ganddyn nhw, eu bywyd teuluol a gall olygu deilliannau tymor hir.
Ymunwch â'r Athro Stephan Collishaw, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson a Dr Joanna Martin, Cymrawd Ymchwil, ill dau yn gweithio yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol, wrth iddyn nhw drafod gwaith arloesol Prifysgol Caerdydd i ddatblygu gwell dealltwriaeth o iechyd meddwl pobl ifanc.