I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr (Byw!) - Pen-blwydd Xpress Radio yn 25 oed
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Tiwniwch i mewn i wrando ar y sgwrs hon dan arweiniad cyn-fyfyrwyr wrth inni ddathlu pen-blwydd Xpress Radio yn 25 oed pan fyddwn ni’n trafod dylanwad ac effaith radio myfyrwyr ar gyfleoedd myfyrwyr. Y drafodaeth hon yw’r ddiweddaraf yn ein cyfres I Gynfyfyrwyr, Gan Gynfyfyrwyr (Byw!) o ddigwyddiadau, lle rydym yn trosglwyddo'r gwe-gamerâu i'n cynfyfyrwyr drafod pynciau sydd o ddiddordeb i gymuned Prifysgol Caerdydd.
Byddwn ni’n sgwrsio â Danni Diston (BA 2019) a Sam MacGregor (BSc 2020), dau gyn-gyflwynydd Xpress Radio a ddechreuodd ar Radio 1 am y tro cyntaf ddiwedd 2020, gan gyflwyno’n gyntaf fel rhan o’r rhaglen ‘Christmas Cover’ ac yn fwy diweddar ar ‘Early Breakfast’ Radio 1.
Cyflwynwch gwestiwn ymlaen llaw ar gyfer ein panelwyr wrth gofrestru ar gyfer y gweminar.