Llyfrgell Gynta’r Genedl?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae’r casglwr llyfrau brwd, Enoch Salisbury, bron yn angof erbyn heddiw. Ond fel y cyntaf i geisio (a methu) creu Llyfrgell Genedlaethol i Gymru, mae llawer mwy i hanes y llyfrbryf hwn, a’i gasgliad enfawr o lyfrau Cymraeg.
Ai egsentrig o fethdalwr oedd e, neu arloeswr oedd o flaen ei oes? Dewch am daith trwy lyfrau arwyddocaol o’i gasgliad, nawr dan ofal Prifysgol Caerdydd, a phenderfynwch drosoch eich hunain...