Cyfieithu, cyfaddasu a disodli: y berthynas rhwng enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg yng Nghaerdydd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Pam y mae gan yr ardal sydd â’r enw ‘Heath’ yn Saesneg ddau enw Cymraeg sy’n cystadlu â’i gilydd: Y Waun a’r Mynydd Bychan? A phryd a pham y penderfynodd yr awdurdodau ddileu’r enw Cymraeg ar un o brif ffyrdd y ddinas a gosod enw Saesneg mwy ‘parchus’ yn ei le? Pam y mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno polisi sy'n sicrhau mai Cymraeg fydd iaith enwau strydoedd newydd o hyn allan?
Caiff yr atebion i’r cwestiynau hyn ac eraill ynghylch y berthynas rhwng enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg yng Nghaerdydd eu harchwilio gan Dr Dylan Foster Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn y ddarlith hon.
Sesiwn yng ngofal Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru.