42ain Gynhadledd y Gymdeithas Astudiaethau Iberaidd Cyfoes
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Association of Contemporary Iberian Studies Conference logo](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0012/2537598/Association-of-Contemporary-Iberian-Studies-Conference-logo-2021-7-28-18-5-56.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Eleni, cynhelir ail gynhadledd ar ddeugain y Gymdeithas Astudiaethau Iberaidd Cyfoes (ACIS) gan yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd yn cael ei chynnal yn rhithwir er mwyn sicrhau diogelwch a’i gwneud hi’n haws i bob cynadleddwr a siaradwr gyfrannu.
Mae'r Gymdeithas yn cynnal cynhadledd amlddisgyblaethol ryngwladol ddechrau mis Medi bob blwyddyn. Mae'r gynhadledd yn teithio rhwng prifysgolion yn Sbaen, Portiwgal a'r Deyrnas Unedig, ac mae papurau a phaneli yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol-ddiwylliannol, economaidd a gwleidyddol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda phwyslais penodol ar y Penrhyn Iberaidd a'i gysylltiadau â'r bydoedd ehangach sy’n siarad Portiwgaleg a Sbaeneg. Mae'r awyrgylch yn un cadarnhaol a chefnogol ac mae croeso cynnes i academyddion profiadol, academyddion ar ddechrau eu gyrfa ac ôl-raddedigion.
Bydd y gynhadledd eleni yn parhau fel digwyddiad tridiau, ac fel arfer, bydd yn cynnwys detholiad o baneli a phrif anerchiadau.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gymdeithas ar wefan ACIS.
Themâu
Y meysydd thematig eleni ar gyfer papurau a phaneli yw Iberia: Cof, Trawsnewidiadau a'r Trawswladol.
Prif siaradwyr
• Dra. Teresa Abelló a Dra. M. Lourdes Prades (Prifysgol Barcelona)
• Yr Athro Parvati Nair (Queen Mary, Prifysgol Llundain)
• Yr Athro António Costa Pinto (Prifysgol Lisbon)
Trefnwyr cynnal
• Dr Siân Edwards, Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd a Chyfarwyddwr Rhaglen Astudiaethau Sbaeneg, Portiwgaleg ac America Ladin (Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd)
• Eleri Davies, Swyddog Digwyddiadau a Chyfathrebu Mewnol (Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd)
• Gyda chefnogaeth myfyrwyr ôl-raddedig Rachel Beaney a Joe Healey (Ysgol Ieithoedd Modern, Prifysgol Caerdydd).
Cynullydd y rhaglen
• Dr Susana Roch Relvas (Universidade Católica Portuguesa).
Pwyllgor Gweithredol ACIS
Mae rhestr o aelodau Pwyllgor Gweithredol ACIS ar gael.
Rhaglen a Llyfr chrynodebau
Bydd rhaglen y gynhadledd a’r llyfr crynodebau ar gael yn fuan.
Platfform rhithwir
Am y tro cyntaf yn hanes cynhadledd ACIS, cynhelir y digwyddiad eleni yn gyfan gwbl ar-lein trwy Zoom .
Fformat
Bydd sesiynau Zoom unigol yn cael eu trefnu ar gyfer pob prif anerchiad, yn ogystal â phob panel. Bydd pob sesiwn yn dechrau gyda chyflwyniad byw gan y cadeirydd ar gyfer y prif siaradwr/siaradwyr neu banelwyr. Yna bydd cyflwyniadau wedi'u recordio ymlaen llaw yn cael eu chwarae a sesiwn holi ac ateb byw. Bydd y tair elfen yn digwydd yn yr un sesiwn Zoom mewn amser real.
Bydd y recordiadau ar gael i gynrychiolwyr eu gwylio trwy'r sianel YouTube am 12 mis ar ôl y gynhadledd.
Cofrestru
Mae cynhadledd eleni yn rhad ac am ddim. Sicrhewch eich bod yn cofrestru i fod yno drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith uchaf y dudalen hon, fel y gallwch gael yr holl wybodaeth berthnasol a’r cyfarwyddiadau a dolenni i ymuno maes o law.