Sgwrs Ddinesig Genedlaethol am ein Dyfodol Cyfansoddiadol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/2528850/wales-gov-centre-mick-a.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad newydd, Mick Antoniw AS, yn rhoi araith ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, lle bydd yn amlinellu cynlluniau i gynnal sgwrs genedlaethol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Yng nghyd-destun cyhoeddiad pwysig Llywodraeth Cymru, ‘Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU’, a’r galw am ddatganoli ar seiliau ffederal radical, bydd y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad yn nodi sut mae'n bwriadu ymgysylltu â phobl Cymru wrth lunio "gweledigaeth newydd i Gymru gref mewn DG lwyddiannus".