Ysgol Busnes Caerdydd - Seswn Hysbysu – Cyfweliad â Julie-Ann Haines, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu'r Principality
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ymunwch gyda ni am drafodaeth anffurfiol gyda Julie-Ann Haines, Prif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu Principality, wrth iddi drafod effaith y pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf, gan amlinellu’r heriau a wynebodd y sefydliad, a hithau fel unigolyn. Fis Gorffennaf diwethaf, cafwyd diweddglo hynod ddiddorol i’n cyfres o Sesiynau dros Frecwast yng nghwmni James Timpson, OBE, Prif Weithredwr Timpsons, wrth iddo rannu ei fewnwelediadau a’i ddidwylledd unigryw. Hwn, felly, fydd y nesaf yn ein cyfres “C-Suite”, ac mae’n addo bod yr un mor oleuol.
Mae’n debyg bod Cymdeithas Adeiladu Principlality, fel pob busnes arall, wedi wynebu mwy o heriau yn ystod yr 16 mis nag y mae wedi ei hwynebu trwy gydol ei fodolaeth. Wrth i don cyntaf y pandemig gyrraedd ei hanterth haf diwethaf, symudodd Julie-Ann Haines i swydd Prif Weithredwr, gan dywys y Principality trwy’r cynnwrf, wrth gofleidio arloesedd a symud i’r normal newydd. Beth oedd yr heriau mwyaf roeddynt yn eu hwynebu, a pha bolisïau a phrosesau y maent wedi ei deddfu i barhau i dyfu a datblygi, yn ddiogel, i’w cydweithwyr a’i chwsmeriaid.
Dyma rai o’r cwestiynau y byddwn yn eu gofyn i Julie-Ann yn ystod y sgwrs hon ar Ddydd Mercher Gorffennaf 14eg am 8.30 am. Ymunwch â ni.
Os hoffech chi ymuno â'n Cymuned Addysg Weithredol a derbyn gwahoddiadau ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol, Sesiynau dros Frecwast, gwybodaeth am gyrsiau, a'n cylchlythyrau misol, dilynwch y ddolen yma (rydyn ni'n hoffi dilyn y rheolau GDPR).